SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
1 Medi 2016
Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
1. Ysgrifennir yr ymateb hwn ar ran Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn dilyn ymgynghoriad gyda’n haelodau. Ceir rhestr lawn o’n haelodau yma: http://www.cytun.org.uk/ni.html Mae ein haelod fudiadau yn cynnwys rhyw 172,000 o aelodau unigol ar draws Cymru, ynghyd â miloedd yn rhagor sy’n cefnogi eglwys leol neu un o’r mudiadau Cristnogol eraill mewn gwahanol ffyrdd.
2. Rydym yn gyffredinol gefnogol i awgrymiadau cychwynnol y Pwyllgor am ei raglen waith ar gyfer 2016-21.
3. Rydym yn arbennig o gefnogol i’r ymchwiliad arfaethedig am Tlodi a diwygio lles. Hoffem weld cynnwys yng nghylch gwaith yr ymchwiliad hwnnw effaith sancsiynau budd-daliadau ar bobl yng Nghymru. Rydym ni fel eglwysi, trwy ein gwaith bugeiliol a thrwy gynnal prosiectau megis Banciau bwyd a chynghori am ddyledion yn pryderu yn arbennig am y wedd hon ar ddiwygio lles. Fe fu i nifer o’n haelod eglwysi cynhyrchu adroddiad ar y pwnc yn 2014 dan yr enw Amser i ail-feddwl sancsiynau budd-daliadau, gydag atodiad am yr effaith ar Gymru yn benodol yn 2015. Danfonwyd copi at bob Aelod o’r Cynulliad yn Awst 2015, a gellir gweld yr atodiad yma: http://cinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/07/Sanctions-Report-II-Welsh.pdf Byddem yn pwyso ar y Pwyllgor i gomisiynu gwaith ymchwil llawnach am y mater hwn, a byddem yn awyddus i gynorthwyo gyda’r gwaith hwnnw mewn unrhyw ffordd y gallwn.
4. Rydym yn gefnogol hefyd i’r ddau ymchwiliad a awgrymir ym maes tai a digartrefedd. Mae dau o’n haelod fudiadau (Aelwyd a Housing Justice Cymru) yn ymwneud yn benodol â’r maes hwn. Fe hoffem hefyd weld ymchwilio i’r cysylltiad rhwng diwygio lles a digartrefedd, yn enwedig yng nghyd-destun y Lwfans Tai Lleol (LHA) a’i effaith ar ddarparu cartrefi cymdeithasol yng Nghymru, sy’n achosi cryn bryder ar hyn o bryd.
5. Mae ein haelod eglwysi yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol wrth groesawu ffoaduriaid i’n plith, o Syria ac o wledydd eraill. Rydym yn ymwybodol i Oxfam gyflwyno i chi awgrym manwl ar gyfer ymchwiliad yn y maes hwn, a hoffem fynegi ein cefnogaeth i’r awgrym hwnnw a’n parodrwydd i gymryd rhan yn yr ymchwiliad pan ddaw.
6. Rydym yn ymwybodol o faes gwaith eang a phwysig eich Pwyllgor, ac y bydd blaenoriaethu ymhlith yr holl bynciau pwysig a ddaw i’ch sylw yn anodd. Dymunwn yn dda i chi yn eich gwaith ac edrychwn ymlaen at allu eich cynorthwyo, ac at elwa o ffrwyth eich llafur.
Gethin Rhys
Swyddog Polisi
Gellir cyhoeddi’r ymateb hwn yn gyflawn.